Mae niferoedd di-ri o bobl ifanc yn chwilio’n gyson am amgylchedd diogel, cefnogol gyda mynediad at gymorth a chyngor. Yn yr un modd, mae clust I wrando yn cael ei werthfawrogi Cystal.
Mae lloches gyda rhywun all wrando yn gallu bod y wahaniaeth rhwng dewis da a dewis drwg I berson ifanc sydd ar yr ymylon. Gall penderfyniad anghywir arwain at broblemau megis unigedd, problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a throsedd.
Bydd eich rhodd reolaidd i YMCA Pen-y-bont yn sicrhau eich bod yna o hyd i bobl ifanc ein hardal. Heb ots faint y gallwch ei roi, byddwch yn ein helpu i ddarparu lle diogel, cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i filoedd o bobl ifanc ledled Pen-y-bont ar Ogwr.
Gadewch rodd i YMCA Pen-y-bont yn eich ewyllys a sicrhewch y gall pobl ifanc ffynnu am flynyddoedd i ddod.
Bydd rhodd yn eich ewyllys yn adeiladu ar ein hanes; gan sicrhau ein bod medru cefnogi pobl ifanc ymhell i’r dyfodol.
Cofiwch rywun arbennig trwy wneud rhodd yn ei henw. Gall anrheg o’r fath helpu pobl ifanc adeiladu dyfodol gwell a chyflawni eu gwir botensial.
I wneud cyfraniad o unrhyw fath, mynnwch sgwrs gyda Reg Denley.